a) Yn anffodus nid oes cysondeb ar draws Cymru i’r trefniadau presennol ar gyfer gwella gwasanaethau awtistiaeth. Cefais enghraifft ddiweddar o gynnig hyfforddiant i staff yn y blynyddoedd cynnar ar gefnogi plant ag awtistiaeth yng ngogledd Cymru ac nid oeddent yn ymwybodol o’r wefan wych a’r adnoddau http://www.asdinfowales.co.uk

Bu ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ond eto ni fu cysondeb ar draws Cymru.

Yn ogystal mae’n hanfodol i symud ymlaen bellach o godi ymwybyddiaeth i greu dealltwriaeth well ar sut i gefnogi plant ag oedolion sydd gydag awtistiaeth o fewn ein cymunedau ar draws Cymru.

b) Ydw yn bendant ac mae’n rhaid cael er mwyn sicrhau bod yr awdurdodau lleol a chyrff y GIG yn cydweithio oherwydd yn anffodus nid yw hyn yn digwydd yn bresennol.

c) Mi ddylai fod yn ddigon manwl i sicrhau atebolrwydd.

d) Fe ddylai fod process o ymgynghori yn cael ei sefydlu bydd yn sicrhau cynrychiolaeth o lais pawb e.e. creu fforwm gydag aelodau teuluol; gofalwyr; unigolion eu hunain; asiantaethau gofal; addysg ;iechyd ag yn y blaen. Fe fyddai modd wedyn hysbysebu bod modd i unrhyw gysylltu â’r fforwm i godi unrhyw faterion yn ymwneud ac effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth.

e)Fe ddylai’r ddeddfwriaeth gael ei adolygu bob dwy flynedd gyda hyblygrwydd i’r fforwm ymateb ar frys os oes sefyllfa yn codi i warantu hyn.

f) Rhaid monitro neu fel arall ni fydd pwrpas rhoi'r holl waith i mewn i'r ddeddfwriaeth-mae’n rhaid sicrhau y bydd yn creu gwelliannau i unigolion ag awtistiaeth a’u teuluoedd dros dymor hir.

15. Dylid nodi gair ychwanegol i’r frawddeg olaf y pwynt yma sef- ‘’Byddai hyn hefyd yn galluogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol if od yn atebol yn ôl y gyfraith am ddarparu llwybr clir DWYIEITHOG i ddiagnosis’’

g) Nid yw’n hawdd i rieni dderbyn asesiad ac yn aros cyfnodau annerbyniol o hir yn enwedig os oes angen asesiad trwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn groes i’r ddeddf cydraddoldeb.

h) Sicrhau dewis iaith yr asesiad a sicrhau cysondeb amseroedd aros ar draws Cymru. Hefyd sicrhau bod gwell cyfle i unigolion hyn dderbyn diagnosis- nifer fawr o unigolion sydd bellach dros eu hanner cant heb dderbyn diagnosis ac angen cefnogaeth deilwng i’w anghenion wrth fynd yn hyn.

i) Cytuno.

j) Ddim yn ddigonol o bell ffordd.

k) Cytuno gyda phob argymhelliad- ategu un pwynt y dylid pwysleisio hefyd nid yn unig y trosglwyddo o fod yn blant i oedolion ond o fod yn oedolion i fynd yn hyn gan fod oblygiadau eraill i hyn sydd yn unigryw e.e. gorffen cyfleoedd addysg/colegau; cyfleoedd gwaith. Rhaid paratoi ar gyfer gofal wrth fynd yn hyn a’r cynnydd mewn afiechydon eraill.

l) Cytuno.

m) Ddim yn siŵr ,mae’n ddrwg geni ond cydnabod bod angen casglu’r data. Cyflogi adrannau ymchwil prifysgolion i wneud y gwaith??

n) Nid oes cysondeb hyfforddiant ar draws Cymru gan unigion sydd gyda’r profiad angenrheidiol ynghyd a chymwysterau i gynnig hyfforddiant o ansawdd uchel.

Mi fydd yn bwysig sicrhau cysondeb canlyniadau ac fe ddylid teilwra’r hyfforddiant yn fwy hyblyg ar gyfer staff penodol.

0)  Cytuno-hoffwn awgrymu hefyd y dylid nodi staff allweddol i dderbyn hyfforddiant penodol ond mae’n hynod bwysig i sicrhau bod pawb yn derbyn sesiynau codi ymwybyddiaeth oherwydd mae’n rhaid sicrhau bod pawb gan gynnwys y cyhoedd yn deal awtistiaeth fel bo unigolion yn derbyn y gefnogaeth gorau bosib yn eu cymunedau.

p) Dim fwy o awgrymiadau o safbwynt cyflogaeth ond eto sicrhau ein bod yn parhau i gynnig hyfforddiant i’r gweithle ar sut i sicrhau gwell dealltwriaeth o awtistiaeth.

r)  Dwi ddim yn siŵr os yn y pwynt yma y dylwn nodi hyn?:-
Roeddwn yng nghyfarfod AGM National Autistic Society yn Llundain penwythnos diwethaf ac yn sylwi eu bod yn Lloegr yn defnyddio'r term ‘Autistic Adults-Autistic Children’. Rwyf yn teimlo’n gryf y dylem yng Nghymru bwysleisio'r unigolyn yn gyntaf sef ‘Unigolyn gydag awtistiaeth- plant ag awtistiaeth’.

Mae’n bwysig cael diagnosis, terminoleg er mwyn deall yn well a chefnogi unigolion yn y modd gorau posib.

Ond unigion ydi pawb yn gyntaf ac yn digwydd bod ganddynt awtistiaeth sydd yn bwysig i ni ystyried a’i ddeall fel y bo mod di ni ddod i’w adnabod yn well fel unigolion a chynnig parch iddynt.

Felly rhaid sicrhau trwy gydol y ddeddfwriaeth ein bod yn sicrhau nad ydym yn creu fwy o label ond yn hytrach yn creu deddfwriaeth fydd o gymorth i ddangos parch i’r unigolyn.

s) -w)  Ni does gennyf arbenigedd mewn dadansoddi costau ac arbedion ond yn sicr o safbwynt profiad o weithio'r maes gofal am flynyddoedd maith a gweld strategaethau gofal yn gylch droi dros y blynyddoedd, credaf fod buddsoddi mewn deddfwriaeth ynghyd a’r holl gostau posib yn gam doeth iawn hir dymor. Cam fydd mewn amser yn gostwng costau unwaith fydd y ddeddfwriaeth yn ei hanterth.

x) Hoffwn ategu y byddai hwn yn gyfle i gynnwys brodyr a chwiorydd oedolion gydag awtistiaeth yn y broses o ymgynghoriad. ‘Rwy’n teimlo bod yna ganran uchel o unigolion gydag awtistiaeth sydd bellach, oherwydd marwolaeth rhieni, yn derbyn cefnogaeth gan frodyr a chwiorydd ac mae angen cynnig cefnogaeth iddynt ond hefyd elwa o’u profiad helaeth yn y maes.

Rhaid i'r ddeddfwriaeth bwysleisio bod awtistiaeth yn gyflwr o’r crud i’r bedd ac unigolion a’u teuluoedd yn haeddu cefnogaeth ar bob cam o’u taith bywyd, ddim pwysleisio plentyndod yn unig.

Hoffwn gloi gyda diolch yn fawr am y cyfle i ymateb a diolch i chi am eich holl waith trwyadl.